07 Hydref 2017 – 27 Ionawr 2018

The Kitchen

Gofod cymdeithasol creadigol, lle bydd celf, perfformio, crefft a ffilm, yn cael eu gwneud, eu rhannu a’u hysbrydoli. The Kitchen yw gofod digwyddiadau a phrosiectau untro Oriel Davies.  Mae’r gofod ar agor i ymwelwyr o fis Hydref 2017 tan fis Ionawr 2018, ac mae’n cyflwyno rhaglen fywiog o weithdai, gweithgareddau, digwyddiadau a sgyrsiau ochr yn ochr â chyfleoedd gwych ar gyfer cydweithio ac ymyriadau cymunedol.

Mae The Kitchen yn ystafell i ymlacio a chymdeithasu ynddi, yn ogystal â lle i fod yn greadigol. Mae The Kitchen wedi cael ei ddylunio fel amgylchedd hyblyg ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau, a bydd yn addasu ac yn newid yn barhaus dros y pedwar mis wrth i ymwelwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol greu a rhannu eu gwaith.

Gan adeiladu ar gyflawniadau The Drawing Room yn y flwyddyn gyntaf, The Kitchen ydy rhifyn nesaf Open Space, sef prosiect peilot dwy flynedd sy'n rhedeg ochr yn ochr â, ac yn ychwanegol at, arddangosfa a rhaglenni dysgu presennol yr Oriel. 

Cefnogir Gofod Agored gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Esmée Fairbairn.

Coming Events

July   2019
S M T W T F S
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
There are no up-coming events
Twitter Facebook Instagram
Go to top
Cylchlythyr
Do you want us to keep you updated on latest news?